Mae Candelas, Geraint Lovgreen ac Al Lewis ymhlith yr artistiaid fydd yn perfformio yng Ngŵyl Fach y Fro 2018.

Mae disgwyl llu o fandiau a disgyblion lleol i berfformio ar lwyfan yr ŵyl ar Ynys y Barri ar Fehefin 16.

Y DJs Bethan Elfyn a Gareth Potter bydd yn cyflwyno’r diwrnod, ac yn ogystal â cherddoriaeth mi fydd amrywiaeth o weithgareddau eraill.

Cyngor Bro Morgannwg, Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chronfa’r Loteri Fawr, sydd yn cefnogi’r diwrnod.

Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ac mae pobol sydd ddim yn medru’r Gymraeg yn cael eu hannog i fynd yno i brofi’r iaith a’r diwylliant.

Pwy fydd yn perfformio?

  • Candelas
  • Geraint Lovgreen a’r Enw Da
  • Alys Williams a’r Band
  • Al Lewis
  • Mabli Tudur a’r Band
  • Fleur de Lys