Mae newyddiadurwyr blaenllaw o Qatar, Tsieina, India ac Awstralia wrthi’n teithio o amgylch Cymru yn ymweld â phrif atyniadau’r wlad.
Nod y daith, sydd wedi’i threfnu gan Croeso Cymru – corff dwristiaeth Llywodraeth Cymru – yw cynnig blas o Gymru, a chryfhau cysylltiadau rhyngwladol.
Yn ystod y daith, bydd yr ymwelwyr yn ymweld â phwll glo Big Pit, traethau, cestyll, a’n cael profi arfordir Sir Benfro o’r awyr mewn hofrennydd.
Dechreuodd y daith yn Neuadd Llangoed, Aberhonddu; lle wnaeth y newyddiadurwyr gyfarfod â’r Gweinidog Diwylliant Twristiaeth a Chwaraeon , yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas.
“Gwneud argraff”
“Rwy’n hoff iawn o gefn gwlad odidog Cymru, mae mor wyrdd ac mae’r bobl mor groesawgar,” meddai’r Gohebydd Times of India, Saurabh Sinha, sy’n rhan o’r daith.
“Dwi wedi bod i Brydain sawl gwaith ond byth i Gymru – ac mae’r wlad wedi gwneud argraff fawr arnaf i ac rwy’n siŵr bydd fy narllenwyr yn mwynhau darllen am y wlad wych, groesawgar hon.”