Mae plentyn wedi cael ei anafu’n ddifrifol a gallai ei fywyd fod mewn perygl, yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd mewn pentref gwledig yng Ngheredigion.

Digwyddodd y ddamwain ar yr A485 yn Olmarch rhwng Llanbedr Pont Steffan a Thregaron ychydig cyn naw o’r gloch y bore yma [4 Mai].

Bu gwrthdrawiad rhwng Subaru glas a Mitsubishi 4×4 du, oedd yn cario anifeiliaid byw.

Mae gyrrwr y car – dynes 28 oed – a’i dau o blant wedi cael eu cludo i’r ysbyty. Cafodd un o’r plant ei gludo mewn hofrennydd gydag anafiadau a allai beryglu ei fywyd.

Mae gan y gyrrwr a’r teithiwr yn y cerbyd 4×4 anafiadau bychan a ni chafodd yr un anifail ei anafu.

Mae gofyn i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu oedd yn gyrru ar y ffordd tua’r un amser, i gysylltu â’r heddlu ar 101.