Mae nifer yr achosion o ‘sextortion’, lle mae gangiau troseddol yn defnyddio’r We a lluniau a fideos personol o bobol i’w blacmelio, wedi cynyddu.

Mae’r troseddwyr yn twyllo pobol drwy wneud iddyn nhw feddwl bod nhw’n siarad gyda rhywun deniadol ar gyfryngau cymdeithasol, neu drwy apiau caru.

Y bwriad wedyn yw gofyn i’r un sy’n cael ei dargedu dynnu ei ddillad a gwneud gweithred rywiol ar wê-gamera, ac mae’r gangiau wedyn yn defnyddio fideos o hynny i geisio eu blacmelio am filoedd o bunnoedd.

Mae’r heddlu wedi annog pobol i barhau i ddweud wrthyn nhw os ydyn nhw wedi cael eu targedu gan y gangiau sextortion.

Ers dechrau’r flwyddyn, mae Heddlu De Cymru wedi cael gwybod am 42 achos o’r fath, sy’n gyfystyr â phum achos y pythefnos.

Yn ystod y pedwar mis olaf o 2017, cafodd 32 o achosion eu hysbysu i’r un llu.

Mae o leiaf pum dyn ifanc o wledydd Prydain wedi lladd eu hunain ar ôl dioddef o sgamiau sextortion.

Cyngor yr heddlu

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd, Rob Cronick o Heddlu De Cymru, fod cynnydd mewn sextortion wedi bod ar wefannau Facebook, Twitter, Instagram, Snapchat, Skype ac apiau caru Tinder, Bumble a Plenty of Fish.

“Dyw’r troseddau hyn ddim yn aml yn cael eu riportio, achos bod dioddefwyr yn teimlo cywilydd,” meddai.

“Fodd bynnag, rydym ni am i ddioddefwyr wybod am sut gallan nhw ddiogelu eu hunain a beth ddylen nhw wneud os ydyn nhw’n cael eu targedu.

“Os ydych yn dioddef o sextortion, peidiwch â mynd i banig, peidiwch â thalu, peidiwch siarad â’r troseddwyr a pheidiwch dileu unrhyw ohebiaeth. Ffoniwch yr heddlu ar 101 a byddwn yn eich helpu.

“Os ydych wedi talu, rhowch wybod i’r heddlu o hyd a byddwn yn rhoi cymorth a chefnogaeth wrth i ni ymchwilio i’r amgylchiadau.”

Mae’r heddlu yn annog pobol i beidio derbyn ceisiadau ffrind gan bobol ddieithr ac i fod yn ofalus gyda phwy maen nhw’n siarad ar-lein.