Mae myfyrwraig o Brifysgol Abertawe wedi ennill gwobr nyrsio Brydeinig.

Yn ystod seremoni yn Llundain, cafodd Charlene Baillie ei choroni’n ‘Nyrs Mwyaf Ysbrydoledig y Flwyddyn’ gan y Student Nursing Times.

Mae’r fyfyrwraig yn hanu o Garnant yn Nyffryn Aman, ac yn astudio nyrsio. Cafodd ei hysbrydoli i ddilyn gyrfa feddygol ar ôl cael ei thrin gan nyrsys tra’n glaf.

Roedd y brifysgol ei hun wedi ei henwebu am bedair gwobr, ond bu’n aflwyddiannus.

“Grymuso”

“Dwi’n hynod o falch o fod wedi ennill y wobr hon,” meddai Charlene Baillie. “Mae hyn wedi dangos i mi fod unrhyw beth yn bosib!

“Dwi am gael fy adnabod fel nyrs da, ond dwi am fod yn fwy na hynny, dwi am rymuso pobl i greu newid a chyflawni beth bynnag maen nhw eisiau.”