Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth yn dilyn lladrad yn Llanelli.

Cafodd bag ei ddwyn o dŷ ar Stryd Emma ar Ebrill 15, yn ystod oriau mân y bore.

Mae swyddogion yn chwilio am ddyn tenau a barfog yn ei ugeiniau, mewn perthynas â’r lladrad.

Roedd yr unigolyn yma yn gwisgo trowsus a siaced lwyd ar y noson honno, a gyda chwfl (hood) am ei ben.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Dyfed Powys.