Mae penderfyniad cabinet Plaid Cymru Cyngor Gwynedd i gau clybiau ieuenctid yn y sir yn dangos eu bod  wedi “cefnu ar gefn gwlad”.

Dyna yw safbwynt y Cynghorydd Llais Gwynedd, Aeron Jones, yn sgil trafodaeth ar y mater yn ystod cyfarfod lawn y Cyngor ddoe (Mai 3).

Er bod y clybiau eisoes wedi’u cau, cafodd Rhybudd o Gynnig ei gyflwyno gan Gynghorydd Llais Gwynedd arall, Alwyn Gruffydd, i gyfarfod ddoe, yn galw am “ail ystyried” y penderfyniad.

Daeth dim byd o’r cynnig hwn, ond cafodd gwelliant gan Menna Baines – Cynghorydd Plaid Cymru – yn galw am ragor o drafod, ei basio.

“Cefnu”

“Mae hyn ond yn dangos bod Plaid Cymru yng Ngwynedd yn cefnu ar gefn gwlad,” meddai Aeron Jones.

“Does ganddyn nhw ddim math o ddiddordeb yng nghefn gwlad.

“Mae’n groes i be mae Plaid Cymru Ceredigion yn gwneud, yn groes i be mae Plaid Cymru mewn gwahanol ardaloedd o Gymru yn gwneud .Ond yng Ngwynedd maen nhw’n cefnu ar gefn gwlad.

“Ac yn cefnu ar yr union bobol sydd yn pleidleisio iddyn nhw.”

Dadl Plaid Cymru yw bod y gwasanaeth clybiau ieuenctid angen cael ei drawsnewid ac mae toriadau i awdurdodau lleol sy’n bennaf gyfrifol am y penderfyniad.

Codi cyflogau – “cywilyddus”

Mae adroddiad blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol [aelodau etholedig] yn argymell cynnydd o £200, a chafodd hyn ei gymeradwyo.

Ond ni fydd pob cynghorydd yn pocedu’r arian ychwanegol, meddai’r cynghorydd Llais Gwynedd.

“Yn yr oes sydd ohoni lle mae diffyg arian, dw i’n meddwl ei fod o’n gywilyddus ein bod ni’n cymryd yr arian yma,” meddai Aeron Jones. “Mae pobol yn stryglo.”

Mae’r Cynghorydd Llais Gwynedd yn dweud y bydd ef a sawl un arall yn dewis trosglwyddo’r arian i gymunedau lleol yn hytrach na chadw’r swm ychwanegol.

Ymateb Plaid Cymru

Yn ôl Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, Dyfrig Siencyn:

“Cefn gwlad yw asgwrn cefn Gwynedd, ac mae pob cynghorydd Plaid Cymru, nifer ohonynt wedi eu magu yn eu milltir sgwâr, sy’n cynrychioli trigolion mewn ardaloedd gwledig yn gweithio’n ddiddiwedd i fuddsoddi, cefnogi ac annog gweithgareddau a gwasanaethau o fewn eu cymunedau.

“Mae’n wrthun gen i glywed sylwadau fel hyn gan Gynghorydd yng Ngwynedd – mae’n dangos diffyg dealltwriaeth, gweledigaeth a rheolaeth ar ein gwaith.

“Trigolion Gwynedd sy’n ganolog i bob gweithred mae Plaid Cymru yng Ngwynedd yn ei wneud, waeth beth yw’r amgylchiadau ariannol heriol sy’n ein wynebu. Mae sail ein gwaith fel grŵp Plaid Cymru ar egwyddorion cryf: hybu cyfleoedd gwaith, cyfiawnder cymdeithasol, hyrwyddo’r iaith Gymraeg a gweithredu’n arloesol er lles pobl Gwynedd.”