Mae’r Ceidwadwyr ar Gyngor Conwy wedi dweud eu bod yn cefnogi targedau uchelgeisiol y sir i gynyddu nifer y plant sy’n derbyn addysg Gymraeg.

Yn ôl cais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, Cyngor Conwy yw’r unig gyngor sir yng Nghymru sydd â tharged i gynyddu’r nifer sy’n derbyn addysg Gymraeg yn sylweddol tros yr ugain mlynedd nesaf.

Ar hyn o bryd mae 23.2% o blant saith oed y sir yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Targed Cyngor Conwy yw cynyddu’r ganran i 26.5% erbyn 2020; 40.6% yn 2025; 54.7% yn 2030; 68.8% yn 2030 a 82.8% yn 2040.

Yn ôl y Cynghorydd Ceidwadol Donald Milne, sy’n eistedd ar gabinet glymblaid Conwy, mae’r Torïaid wedi chwarae rhan “hanfodol” wrth osod y targed uchelgeisiol.

“Rydym yn cefnogi targed y Cyngor ac rydym yn hanfodol wrth greu’r targedau hynny o fewn y Cyngor,” meddai wrth golwg360.

 “Amser a ddengys”

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cymeradwyo’r awdurdod am fod yr “unig” cyngor yng Nghymru i gael cynlluniau hirdymor ar y Gymraeg mewn addysg.

Ond wrth siarad am ba mor realistig yw hynny, ac os ydy trigolion Conwy yn deall ac yn derbyn y cynlluniau, dywed Donald Milne y bydd yn rhaid aros i weld.

“Mae targedau yn rhywbeth i’w hanelu atyn nhw, ac i’w cyflawni gobeithio. Os oes gennych chi darged, byddwch chi ddim yn symud oddi wrth gyflawni’r [nod].

“Amser a ddengys pa mor bosib yw ei gyflawni. Ond does dim niwed o gael y targed. Dw i yn amlwg yn cefnogi unrhyw ddatblygiad yn y cyfeiriad hwnnw [o gynyddu addysg Gymraeg].”

Mewn llythyr at Gymdeithas yr Iaith ym mis Rhagfyr, mae aelod y cabinet tros Addysg yng Nghyngor Conwy, Garffild Lloyd Lewis, yn pwysleisio mai targedau drafft sydd dan sylw.

Fe ddywedodd Gwasanaeth Addysg Conwy mewn datganiad heddiw ei fod yn “ymroddedig” i gynyddu ei ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg presennol, a hynny er mwyn “sicrhau bod pobl yn cael yr addysg a’r sgiliau ac yn byw mewn sir lle mae treftadaeth, diwylliant a’r iaith Gymraeg yn ffynnu”.

“Cabinet cryf”

Bu’n rhaid sefydlu cabinet amryliw ar y Cyngor y llynedd, gydag aelodau o Blaid Cymru, y Ceidwadwyr a’r Blaid Lafur.

A bu’n rhaid i dri aelod Plaid Cymru’r Cabinet gefnu ar chwip y blaid yn genedlaethol er mwyn ffurfio clymblaid â’r Torïaid.

Yn ôl Donald Milne, mae’r cydweithio yn mynd yn dda hyd yn hyn.

“Syniad clymblaid amryliw yw tynnu’r ymladd gwleidyddol o wleidyddiaeth leol sy’n amlwg y ffordd ymlaen,” meddai.

“Dw i’n credu bod gennym ni gabinet cryf yn gwneud job wych a dw i’n falch o fod yn aelod ohono.”