Mae 12 o swyddogion wedi cael eu penodi gan Lywodraeth Cymru i helpu busnesau i gynyddu eu gwasanaeth Cymraeg.

Bydd Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, yn lansio gwasanaeth Cymraeg Byd Busnes y Llywodraeth, sydd am ddim i fusnesau ledled Cymru, yn Hwlffordd heddiw.

Bydd y swyddogion yn cynnig gwasanaethau fel cyfieithu bwydlenni, negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol a deunyddiau hyrwyddo.

Byddan nhw hefyd yn cyfeirio busnesau at wasanaethau dysgu Cymraeg, dangos iddyn nhw sut i recriwtio siaradwyr a dysgwyr Cymraeg a chynyddu dealltwriaeth busnesau o bwysigrwydd y Gymraeg.

Mae modd gweld pwy yw’r swyddogion o’r 12 o ganolfannau ledled y wlad ar wefan Llywodraeth Cymru.

‘Rhan o gyrraedd y miliwn’

Dywedodd Eluned Morgan fod y cynllun yn rhan o darged y Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Er bod llawer o fusnesau bach eisiau cefnogi’r Gymraeg, efallai nad oes ganddyn nhw’r amser na’r wybodaeth i ymrwymo’n llwyr i ddwyieithrwydd,” meddai.

“Mae ein swyddogion yn gweithio’n galed i gefnogi busnesau bach a chanolig drwy gynnig gwasanaeth mentora a chyfeirio at adnoddau perthnasol.

“Mae Cymraeg Byd Busnes yn rhan hanfodol o’n nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac rwy’n awyddus i weld yn union faint yn rhagor o fusnesau bach o bob rhan o Gymru fydd yn dewis manteisio ar y gwasanaeth gwych, rhad ac am ddim, hwn.

“O’r canlyniadau rhagorol rydyn ni eisoes wedi’u cael, rwy’n hyderus y byddwn yn gweld llawer mwy o fusnesau bach yng Nghymru yn defnyddio’r Gymraeg.”

Mae’r cynllun eisoes wedi cael ei dreialu gyda rhai busnesau, gan gynnwys St. Davids Kitchen yn Sir Benfro.

“Yn bendant, mae wedi annog cwsmeriaid i ddod yn ôl atom ni, sy’n amhrisiadwy i fusnes bach,” meddai’r perchennog Neil Walsh.

“Mae ein holl ethos yn dibynnu ar ein perthynas gyda ffermwyr, cynhyrchwyr a physgotwyr lleol ac mae’n teimlo erbyn hyn ein bod wedi cryfhau ein cysylltiad gyda’n cwsmeriaid hefyd.”

Roedd gwaith ymchwil Cyngor ar Bopeth yn dangos bod  82% o siaradwyr Cymraeg yn dweud y bydden nhw’n fwy tueddol o ddewis busnes sy’n darparu gwasanaeth da drwy gyfrwng y Gymraeg.