Mi fydd bron 800 o swyddi’n cael eu colli yn ardal Abertawe, ar ôl i gwmni Virgin Media gyhoeddi y byddan nhw’n cau eu canolfan alwadau yn Llansamlet.

Daw hyn wrth i’r cwmni benderfynu lleihau nifer y canolfannau sydd ganddyn nhw ledled gwledydd Prydain, a hynny er mwyn eu canoli ym Manceinion.

Mi fydd cyfanswm o 772 o swyddi’n diflannu yn Llansamlet, gyda 552 o’r rheiny’n rhai parhaol, a’r gweddill yn swyddi isgontractwyr.

Yn ôl prif weithredwr Virgin Media, Tom Mockridge, mae’r cwmni’n bwriadu gadael y safle’n “llwyr” erbyn y flwyddyn nesaf.

Mae’r Aelod Cynulliad lleol, Suzy Davies, wedi disgrifio’r cyhoeddiad yn “ergyd fawr” i’r ardal ac i’r gweithiwyr hynny sydd wedi’u heffeithio.