Mae ymchwiliad i ward iechyd meddwl yn Sir Ddinbych, lle bu farw sawl claf, wedi dod i’r casgliad bod safon y gofal yno wedi bod yn “dda ar y cyfan”.

Mi gaeodd ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, ym mis Rhagfyr 2013, ac fe alwodd un ymchwiliad blaenorol am “waith sylweddol” i wella safonau yno.

“Mae’r Panel Ymchwilio wedi dod i’r casgliad bod y gofal a’r driniaeth a chafodd ei darparu yn ward Tawel Fan o safon gyffredinol da ar y cyfan,” meddai adroddiad yr ymchwiliad sydd newydd ei gyhoeddi heddiw (bore Iau, Mai 3).

“A hynny, er bod yna sawl maes allweddol lle’r oedd angen datblygu a moderneiddio ymarferion a phrosesau clinigol.”

Y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HASCASS), oedd yn gyfrifol am yr adroddiad diweddara’ hwn.

“Canmol”

Mae’r adroddiad  yn cydnabod bod “profiadau rhai o’r cleifion a’u teuluoedd wedi’u peryglu oherwydd cyfuniad o fethiannau’r sustem”.

Ond mae’n ategu nad methiannau ward Tawel Fan oedd yn gyfrifol am hyn “per se”, gan dynnu sylw at fethiannau “ledled ystod eang o wasanaethau”.

Yn ogystal mae’r adroddiad yn adrodd bod “nifer sylweddol o deuluoedd” wedi “canmol” y ddarpariaeth yn Nhawel Fan, ond doedd pob teulu ddim yn teimlo fel hyn.

Cafodd 108 teulu eu holi, a miloedd o ddogfennau eu harchwilio gan ymchwilwyr cyn llunio’r adroddiad.