Mae swyddfa’r cwmni teledu a fu’n gyfrifol am rai o raglenni drama mwyaf S4C yn y blynyddoedd diwethaf, mewn peryg o gau.

Tri aelod o staff sydd gan Fiction Factory Films ar hyn o bryd yn gweithio yn y swyddfa yn Sgwâr Mount Stuart ym Mae Caerdydd, lle’r oedd cynyrchiadau Y GwyllGwaith Cartref a’r ddrama Caerdydd, yn cael eu rhedeg.

Ond bellach, “does dim gwaith ar y gweill” yn ol ffynhonnell, yn dilyn y penderfyniad gan S4C i beidio â chomisiynu cyfres arall o Gwaith Cartref. Fiction Factory oedd yn gyfrifol am gynhyrchu’r pum gyfres ers 2011.

Un o brosiectau mawr eraill y cwmni oedd rhaglen dditectif Y Gwyll a barodd am dair cyfres ac a gafodd ei gwerthu dros y byd. Un o awdurdon Y Gwyll, Ed Thomas, yw cyfarwyddwr creadigol Fiction Factory.

Mae ei gyfresi eraill yn cynnwys  y ddrama am hanes y genedl, Pen Talar, a’r gyfres ddrama am fywyd yn y brifddinas, Caerdydd.

Ers 2002, mae Fiction Factory Films wedi bod yn rhan o grŵp teledu Tinopolis.