Bydd sesiwn brechu yn cael ei chynnal mewn ysgol ym Mhowys heddiw (dydd Iau, Mai 3) yn dilyn achos o Hepatitis A yno.
Bydd athrawon a disgyblion o Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru, Llan-gors, yn cael cynnig brechiad, gyda hyd at 60 o bobol yn rhan o’r sesiwn.
Hyd yma, dim ond un achos sydd wedi’i gofnodi, â cham ddiogelwch yw’r sesiwn brechu i atal yr haint rhag lledu. Yn ogystal, does dim arwydd bod yr haint wedi tarddu o’r ysgol.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyngor Sir Powys, wrthi’n ymchwilio i ffynhonnell yr haint.
“Atal y feirws”
“Y ffordd orau o atal y feirws rhag lledu yw golchi dwylo’n dda ar ôl defnyddio’r toiled a chyn paratoi neu fwyta bwyd,” meddai Dr Christopher Johnson o Iechyd Cyhoeddus Cymru.
“Efallai y gall plant drosglwyddo’r feirws i eraill heb symptomau felly rydym yn atgoffa rhieni i annog golchi dwylo’n dda ar bob adeg.”