Mae myfyrwyr Prifysgol Abertawe wedi pleidleisio o blaid cynnal refferendwm tros sefydlu rôl Swyddog Materion Cymraeg Llawn-Amser yn yr Undeb.

Ar hyn o bryd, mae gan fyfyrwyr Cymraeg y brifysgol, Swyddog Iaith Gymraeg rhan amser, i’w cynrychioli ar Undeb Myfyrwyr Abertawe.

Ond, dyw hi ddim yn deg bod y swyddog yma â’r holl gyfrifoldeb tros y Gymraeg, yn ôl rhai. Yn ogystal,  mae yna alw am gynrychiolaeth o’r un lefel ag sydd mewn prifysgolion eraill yng Nghymru.

Pleidleisiodd 55 o fyfyrwyr o blaid cynnal refferendwm, 37 yn erbyn, ac mi wnaeth ugain o fyfyrwyr ymatal.

Swyddog Iaith Gymraeg yr Undeb, Tomos Watson, a gyflwynodd y cynnig, ac mae golwg360 yn deall fod cryn dipyn o ddadlau cyn y bleidlais.

Mae disgwyl i’r refferendwm gael ei chynnal yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf, gyda’r grwpiau tros ‘o blaid’ ac ‘yn erbyn’ y cynnig yn derbyn £100 yr un am eu hymgyrchoedd.