Mae 60% o bobol a gafodd eu holi gan gwmni drysau a ffenestri Origin wedi dweud mai eu cartref cyntaf – ac nid eu cartref presennol – yw eu cartref ‘go iawn’.

Cafodd 2,000 o bobol yng nglwedydd Prydain eu holi, ac fe ddywedodd dros 70% o bobol mewn ardaloedd gwledig fod atgofion plentyndod yn eu tynnu nhw’n nes at y tŷ cyntaf lle’r oedden nhw’n byw pan yn blant.

Dywedodd 40% fod eu hagosatrwydd at eu cartref cyntaf yn ganlyniad i’r amser y gwnaethon nhw dreulio yno gyda’u teulu, ac fe ddywedodd 54% mai yno yr oedden nhw’n teimlo’n fwyaf diogel.

Yn ôl 38% o’r rhai a gafodd eu holi, mae diffyg hud yn perthyn i’w cartref presennol o’i gymharu â chartref eu plentyndod.

Ac fe ddywedodd 10% eu bod nhw wedi ymdrechu i sicrhau bod eu cartref presennol yn edrych yn debyg i gartref eu plentyndod.

Atgofion

Roedd yr ardd, coginio mam a chwerthin fel teulu ymhlith prif atgofion y rhai a gafodd eu holi.

Dywedodd 30% o’r rhai a gafodd eu holi y bydden nhw’n prynu eu cartref cyntaf pe baen nhw’n cael y cyfle, a 45% o bobol yng Nghymru’n dweud eu bod nhw’n hapusach yn byw yn eu cartref cyntaf nag yn unman arall.

Dywedodd cyfarwyddwr Origin, Ben Brocklesby fod y cwmni’n “awyddus i ddarganfod mwy am straeon ein cartref a pha gynhwysion arbennig sydd eu hangen er mwyn gwneud tŷ yn gartref”.

Ychwanegodd mai’r “manylion bychain” sydd bwysicaf i bobol ar y cyfan.

‘Atgofion’

Ychwanegodd y Seicolegydd Clinigol Roy Shuttleworth fod ein cof “wedi ei raglennu i gofio’r manylion bychain pan oedden ni’n teimlo hapusrwydd”.

“Mae’r rhain yn aros gyda ni’n oedolion, a dyna pam fod ein cof yn cael ei danio gan bethau fel arogl hen fwrdd pinwydden neu brint ar gwpan China.