Mae cyn-gyfarwyddwr addysg yn dweud bod y ffordd y mae teuluoedd sydd â pherthnasau sy’n dioddef o dementai yn cael eu trin yng Nghymru, yn “gwbwl annerbyniol”.

Mae John Phillips, a fu’n gyfarwyddwr addysg yn yr hen sir Ddyfed tan 1996, yn dweud ei fod yn “siarad o brofiad”, gan fod ei wraig, yr hanesydd Bethan Phillips, yn dioddef o’r cyflwr ac mewn cartref gofal ar hyn o bryd.

Ac yn ei hunangofiant, Agor Cloriau, sydd ar fin cael ei gyhoeddi, mae John Phillips yn dweud mai’r brif broblem ynghylch dementia yw ei fod yn cael ei drin fel “gofal”, yn hytrach na “chlefyd”.

“Mae’n amlwg bod y Gwasanaeth Iechyd ddim yn trafod dementia fel clefyd yn yr un ffordd ag y maen nhw’n trafod pethau fel cancr,” meddai John Phillips wrth golwg360.

“Maen nhw’n trafod e fel cwestiwn o ofal yn unig, ac oherwydd hynny mae ʾna ddisgwyl i bobol dalu am goste i berthnase yn y cartrefi yma.”

Costau ar deuluoedd

Yn ôl John Phillips, pe bai gan deulu’r claf sy’n dioddef o dementia fwy na £40,000 yn y banc, gan gynnwys gwerth y tŷ, yna mae’n rhaid iddyn nhw dalu am y gofal.

Ac wrth iddo ystyried nad yw deugain mil yn “llawer” i bobol, mae’n dweud ymhellach bod nifer wedi colli tai wrth dalu am gostau’r gofal, wrth i’w heiddo gael eu gwerthu.

“Mae’n bwysig bod pobol yn sylwi beth yw’r goblygiade os oes un o’ch perthnase chi yn anffodus ac yn datblygu’r clefyd yma sydd yn glefyd pleserus iawn,” meddai wedyn.

“Yn sicr, mae angen i’r Llywodraeth ailedrych ar eu polisïau ynglŷn â dementia, oblegid mae yna bobol sy’n gallu colli’r cyfan sydd gyda nhw, gan gynnwys y tŷ…”

Mi fydd Agor Cloriau yn cael ei lansio yng Nghapel Shiloh, Llanbedr Pont Steffan ar nos Iau, Mai 10.

Mi fydd hefyd yn trafod y gyfrol yng Ngŵyl y Fedwen Lyfrau yng Nghaerfyrddin, ddydd Sadwrn, Mai 12.