Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi bod pedwar o bobl wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â digwyddiad yng Nghasnewydd pan darodd gar i mewn i grwp o bobol ddydd Sul.

Mae tri dyn lleol wedi cael eu harestio – un yn 18 oed, a’r ddau arall yn 19 oed. Mae’r dyn 18 oed yn cael ei holi ar amheuaeth o geisio llofruddio ac o achosi anaf drwy yrru’n beryglus. Mae’r ddau ddyn arall yn cael eu holi mewn cysylltiad â digwyddiad.

Cafodd dynes, 22 oed, sydd hefyd o Gasnewydd, ei harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr, ond bellach mae hi wedi’i rhyddhau dan ymchwiliad.

Cafodd pedwar o bobl eu cludo i Ysbyty Brenhinol Gwent yn dilyn y gwrthdrawiad yn gynnar fore Sul.

Mae dyn a dynes bellach wedi gadael yr ysbyty, tra bod dwy ddynes arall yn parhau i fod yno gydag anafiadau difrifol.

Y gwrthdrawiad

Tarodd y car yn erbyn llond llaw o bobol ar Heol Cambrian am 5.30yb, fore ddydd Sul (Ebrill 29).

Fe wnaeth gyrrwr y car Ford C Max glas ffoi tuag at gyfeiriad Maendy wedi’r digwyddiad. Cafodd y gyrrwr ei ddisgrifio fel dyn croenddu yn ei ugeiniau.

Cafwyd hyd i’r car wedi ei losgi ar Stryd Magwyr yn ddiweddarach.

Dydy’r heddlu ddim yn trin y digwyddiad fel un brawychol.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr un diwrnod a’r marathon yn y ddinas gan achosi oedi cyn dechrau’r ras.

Apêl

Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn sgil y gwrthdrawiad, ac yn awyddus i siarad â llygad-dystion oedd wedi ffilmio’r digwyddiad ar eu ffonau symudol.

Mae’n debyg bod deunydd ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos sawl unigolyn yn ffilmio’r digwyddiad, gan gynnwys dyn mewn crys coch â’r gair ‘COCO’ ar ei gefn.

Dylai unrhyw un wnaeth ffilmio neu dynnu lluniau o’r gwrthdrawiad, gysylltu â’r heddlu trwy ffonio 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 110 29/4/18.