Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r awdur a’r newyddiadurwr, Gwyn Griffiths, a fu farw yn 77 oed.

Cafodd Gwyn Griffiths ei eni yn Swyddffynnon, ger Tregaron, ac roedd yn awdur llyfrau ar Lydaw, Sioni Winwns a’r apostol heddwch, Henry Richard.

Ar ôl derbyn addysg yn Ysgol Uwchradd Tregaron a Phrifysgol Caerdydd, fe fu’n drefnydd yr Urdd yn Sir Benfro, cyn cychwyn ar yrfa mewn newyddiaduriaeth, gan weithio i’r Western Telegraph, County Echo, Y Cymro a’r BBC.

Yn ystod ei oes, fe gyhoeddodd tua 20 o lyfrau, gyda’r llyfr diweddaraf, The Old Red Tongue – An Anthology of Welsh Literature, ar y cyd â Meic Stephens, yn cael ei gyhoeddi’r llynedd.

“Cymru a Llydaw yn dlotach”

Ymhlith y rhai sydd wedi talu teyrnged iddo yn sgil ei farwolaeth yw’r Prifardd Aneurin Karadog, sydd â chysylltiadau teuluol â Llydaw.

“Mae Cymru a Llydaw yn dlotach heddi yn sgil colli Gwyn Griffiths,” meddai.

“Braint oedd ei nabod a chael ei alw’n ffrind… Kenavo Gwyn.”

Yn ôl y newyddiadurwyr, Elin Angharad, mae ganddi “atgofion da” am y “gŵr hael ei gefnogaeth” pan oedd hi’n cydweithio ag ef yn y BBC.

 

Mae’r academydd Simon Brooks wedyn yn dweud bod ei farwolaeth yn “golled fawr”, gyda’i lyfrau am y Sioni Winwns wedi gwneud “cyfraniad i gysylltiadau Celtaidd”.

Roedd Gwyn Griffiths yn byw ym Mhontypridd, ac mae’n gadael ei wraig, Gwen, a phedwar o blant, sef Eleri, Gildas, Ffion a Trystan.