Mae ap myfyrio newydd sbon wedi cael ei lansio yn y Gymraeg fel rhan o brosiect sy’n cael ei arwain gan Fenter Iaith Abertawe.

Cafodd ei lansio yn Amgueddfa’r Glannau’r ddinas ddydd Gwener, wrth i Laura Karadog, awdur sgript yr ap ac athrawes ioga, gynnal gweithdy i roi blas o gynnwys yr ap.

Mae nifer o apiau tebyg ar gael yn Saesneg, gan gynnwys Headspace a Calm, ond dyma’r ap cyntaf o’i fath yn y Gymraeg.

Cafodd y prosiect ei gyllido gan Grant Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru, sy’n anelu am filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn honno.

Mae’r ap yn cynnwys tair sesiwn – un at y bore, un ar gyfer y prynhawn a’r llall ar gyfer y nos cyn mynd i’r gwely.

Cwmni digidol Moilin sydd wedi datblygu’r ap, ac mae’r gerddoriaeth wedi’i chyfansoddi gan Delyth ac Angharad Jenkins, mam a merch sy’n gerddorion lleol. Mae Angharad yn aelod o’r grŵp poblogaidd ‘Calan’.

Mae’r ap hefyd yn cynnwys cyfeiriadur cenedlaethol sy’n rhoi gwybodaeth am athrawon ioga a myfyrdod sy’n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob cwr o Gymru. Mae’r holl wybodaeth ar wefan www.apcwtsh.cymru.

‘Anghenion y Cymry’n bwysig’

Wrth siarad â golwg360, dywedodd Eleri Griffiths o Fenter Iaith Abertawe ei bod yn bwysig fod yr ap yn un sydd â “naws Gymreig” iddo.

“Mae’n hollbwysig i’r ap fod e’n Gymraeg a Chymreig achos ry’n ni’n gallu teimlo ar goll y dyddiau hyn. Ry’n ni’n byw mewn byd rhyngwladol ond mae gwreiddiau gyda ni i gyd. Os y’n ni’n mynd i annog pobol i ffeindio’u gwreiddiau drwy fyfyrio, ni’n moyn bod hwnna’n cael ei gyfleu ym mhob elfen o’r ap – o’r enw i’r gerddoriaeth i’r testun, a’r pethau gweledol hefyd.”

Dywedodd fod enw’r ap – Cwtsh – hefyd yn adlewyrchu rhywbeth nad oes modd ei gyfieithu, gan fod y prosiect wedi osgoi cyfieithu deunyddiau sydd eisoes ar gael yn Saesneg.

“Rhoi cwtsh i’w hunain. ‘Sdim modd cyfieithu hwnna. Mae pawb yn deall beth mae cwtsh yn ei olygu. Gallwch chi greu hynny drwy fyfyrio. Mae pawb yn dueddol o edrych ar ôl pobol eraill y dyddiau hyn, ond nid nhw eu hunain. Ni’n moyn sicrhau bod yr enw cwtsh yn adlewyrchu pa mor groesawgar yw’r Cymry.

“O ran ei hacen a’i hysgrifennu, dyw Laura Karadog ddim yn rhy ddeheuol a ddim yn rhy ogleddol ac yn gallu plethu’r ddwy i mewn i’r testun. Roedd hwnna’n bwysig achos bo ni eisiau sicrhau bod Gogs, Hwntws neu bobol o’r Canolbarth yn gallu teimlo bo nhw’n perthyn i’r ap.”

Ateb y galw

Yn ôl Laura Karadog, mae ap ‘Cwtsh’ yn ateb y galw sydd am adnodd o’r fath yn y Gymraeg, am fod poblogrwydd ioga a myfyrio ar gynnydd yn gyffredinol yng Nghymru.

“Mae o wedi dod yn rhywbeth ofnadwy o boblogaidd. Mae ’na ddiwydiant enfawr, yn enwedig o gwmpas ioga, wedi datblygu dros yr ugain mlynedd diwetha’.

“Wrth gwrs, efo unrhyw ddiwydiant, rwyt ti mewn peryg o golli hanfod y peth yn y marchnata. Ond dw i’n meddwl bod pobol yn sylweddoli bo ni’n byw mewn byd ofnadwy o brysur, mae’r pace yn gwbl anghynaliadwy, mae’n cyrff a’n meddyliau ni’n torri i lawr o’r herwydd ac mae pobol yn dod yn gynyddol ymwybodol bod rhaid i ni gymryd rheolaeth a newid pethau droson ni’n hunain.”

Ymarfer unigol

Yn ôl Laura Karadog, ymarfer unigol yw ioga a myfyrio, ac mae’r ap yn adlewyrchu hynny, yn ogystal â mynd i’r afael ag unrhyw heriau sy’n wynebu pobol mewn dosbarthiadau neu sy’n ymarfer mewn grwpiau.

“Dydi ymarfer fel ioga sydd yn gofyn i chdi edrych arna’ chdi dy hun a dy batrymau mewn dyfnder, lle ti’n edrych mewn drych yn ddyddiol a gweld beth sy’n mynd ymlaen ar wahanol lefelau, ddim yn hawdd.

“Yn aml, fasa pobol yn ei drio fo unwaith neu ddwy ac yn cael eu dychryn gymaint o waith ’dan ni gyd angen ei wneud arnon ni’n hunain. Unwaith mae’r hedyn yn cael ei blannu, be’ dwi’n obeithio fel athrawes ydi bod pobol, dros amser, yn dod yn ôl yn slô fach at yr ymarfer ac yn sticio ato fo wedyn drwy eu bywydau fel ffordd o fyw yn hytrach na rhywbeth ’dan ni’n ticio bocs arno fo yn y bore.

“Mae amgylchiadau pawb yn wahanol ac ymarfer unigol ydi ioga a myfyrio. Be’ ydi’r ymarfer, yn ei hanfod, ydi’r cwestiwn ‘Pwy ydw i?’ All neb ateb hynna droson ni. Gallen ni gael athrawon sy’n ein pwyntio ni i’r cyfeiriad cywir i ni ond yn y pen draw, ymarfer unigol ydi o.

“Mae’n rhaid i ni ddod yn ôl aton ni’n hunain bob tro i ofyn y cwestiynau ac i ddarganfod yr atebion, felly yn hynny o beth, mae’r ap yn ffordd i bobol ddallt hynny.”

Dysgu dosbarth o’i gymharu ag ysgrifennu ap

Yn ôl Laura Karadog, mae’r broses o ysgrifennu ap yn wahanol iawn i’r profiad o ddysgu dosbarthiadau ioga neu fyfyrio.

“Pan dwi’n dysgu dosbarth, fedra’i ddarllen pobol, teimlo’r egni yn yr ystafell, gweld wynebau. Alli di weld cyrff, un ai yn ymlacio neu yn mynd yn fwy tynn.

“Wrth gwrs, ar ap, sgena’i ddim rheolaeth o gwbl dros sut mae’n cael ei glywed y pen arall a’i ddefnyddio.

“Hefyd, wrth gwrs, pan ’dan ni’n dysgu ioga a thechnegau fel myfyrio, mae’r agwedd unigol yna’n ofnadwy o bosib. Mae rhaid i ni deilwra’r ymarfer i bwy bynnag sydd o’n blaenau.

“Yn yr achos yma, dw i wedi gorfod sgwennu rhywbeth go gyffredinol sydd, gobeithio, yn mynd i apelio at ystod eang o bobol lle, swn i’n dysgu unigolion, ddim fel’na swn i’n mynd o’i chwmpas hi.”