Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn dweud ei fod e am gael ei gofio fel arweinydd “teg ac onest”.

Daeth ei sylwadau mewn cyfweliad â rhaglen Sunday Politics Wales y BBC.

Fe fydd yn camu o’r neilltu yn yr hydref yn dilyn ei gyhoeddiad ddydd Sadwrn diwethaf, er ei fod yn dweud ei fod e wedi gwneud y penderfyniad fis Medi y llynedd.

Pwysau

Mae Carwyn Jones wedi bod dan gryn bwysau fel arweinydd ers marwolaeth y cyn-Ysgrifennydd Cymunedau, Carl Sargeant, yn dilyn honiadau o gamymddwyn rhywiol ym mis Tachwedd.

Cafwyd hyd iddo’n farw yn ei gartref, ac mae lle i gredu iddo ei ladd ei hun ar ôl cael ei ddiswyddo o’r Llywodraeth.

Ers hynny, mae Carwyn Jones wedi sôn am “amserau tywyll” ers ei farwolaeth, ac fe fu rhai yn galw ar i Brif Weinidog Cymru ymddiswyddo yn sgil y ffordd y digwyddodd yr helynt.

“Fe fydda i’n onest, ro’n i’n meddwl yn wreiddiol y byddai deng mlynedd yn gyfnod o amser braf, ond pan ddes i’n ôl ar ôl yr haf, yn sydyn iawn roedd dwy flynedd tu hwnt i hynny’n teimlo fel cyfnod hir o amser – pan ddechreuwch chi feddwl fel’na, mae’n bryd paratoi i symud ymlaen,” meddai.

Dywed mai ei fwriad wrth ad-drefnu ei gabinet oedd sicrhau bod darpar-arweinwyr yn eu lle erbyn iddo gamu o’r neilltu.

Ar ôl iddo gamu o’r neilltu, fe fydd yn parhau yn Aelod Cynulliad dros Ben-y-bont ar Ogwr.

Cyfnod wrth y llyw

Dywed Carwyn Jones mai mater i bobol eraill yw “barnu” ar ei lwyddiant yn Brif Weinidog Cymru.

Ymhlith ei brif lwyddiannau, meddai, mae achub swyddi yng ngweithfeydd dur Port Talbot a denu cwmni ceir Aston Martin i Fro Morgannwg.

Dywed ei fod am gael ei gofio fel un oedd yn “deg ac onest”.

“Dw i erioed wedi symud i ffwrdd oddi wrth benderfyniadau anodd nac wedi ceisio eu celu mewn unrhyw ffordd, fyth, a dw i’n credu mai dyna’r cyfan allwch chi ofyn am gael eich cofio amdano fel gwleidydd.”

Marwolaeth Carl Sargeant

Mae nifer o ymchwiliadau wedi’u galw yn sgil marwolaeth Carl Sargeant, a dau ohonyn nhw eisoes wedi’u cwblhau.

Ond mae disgwyl o hyd am yr ymchwiliad annibynnol i amgylchiadau ei ddiswyddo.

Daeth un o’r ymchwiliadau sydd wedi’i gwblhau – i honiadau bod Carwyn Jones wedi camarwain y Cynulliad am fwlio yn Llywodraeth Cymru yn 2014 – i’r casgliad fod Carwyn Jones wedi dweud y gwir.

Y dyfodol

Hyd yn hyn, dim ond Mark Drakeford sydd wedi cyflwyno ei enw i fod yn arweinydd Llafur Cymru.

Ond dydi Carwyn Jones ddim wedi dweud beth fydd ei swydd nesaf yntau.

Dydi hi ddim yn glir eto a fydd e’n ymgeisydd yn yr etholiad nesaf yn 2021 neu’n mynd i Dŷ’r Arglwyddi.

“Fy mlaenoriaeth bresennol yw’r wyth mis nesaf, y peth diwethaf mae pobol am ei gael yw prif weinidog sy’n meddwl y tu hwnt i fis Rhagfyr.”