Dylai Channel 4 sefydlu un o’u canolfannau newydd ym Mhort Talbot, yn ôl y cyngor sir sy’n gyfrifol am y dref.

Ers dechrau mis Mawrth, mae’r darlledwr wedi bod yn chwilio ledled gwledydd Prydain am gartref i dair chanolfan ranbarthol newydd, gan obeithio troi un safle’n bencadlys.

Mae sawl dinas wedi taflu’i het i’r cylch -yn gynnwys Coventry, Glasgow a Chaerdydd.

Ond, â’i mynediad at rwydwaith drenau’r Deyrnas Unedig, a’i hagosatrwydd at briffordd yr M4; Harbwr Port Talbot yw’r lle delfrydol, yn ôl Cyngor Castell-nedd Port Talbot.

“Cryn dipyn i’w gynnig”

“Rwy’n falch ein bod wedi mynegi diddordeb yn yr adleoliad hwn a all fod o bwys mawr,” meddai Rob Jones, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot.

“Mae’n dangos uchelgais y cyngor ar gyfer economi’r fwrdeistref sirol.

“Rwy’n gwerthfawrogi natur gystadleuol iawn y prosiectau mewnfuddsoddi hyn, ond mae gan Gastell-nedd Port Talbot gryn dipyn i’w gynnig fel lleoliad busnes yn ogystal â thraddodiad yn y sectorau diwylliannol a chreadigol.

“Ynghyd â rhestr hir o actorion byd-enwog, mae’r ardal hon wedi denu llawer o gynyrchiadau ffilm a theledu sylweddol.”