Mae heddlu wedi enwi dyn wnaeth farw mewn gwrthdrawiad yn Nhorfaen.
Bu farw Aaron Kaivon Gouran, 30, yn y fan a’r lle pan aeth ei gar oddi ar y ffordd, ganol dydd ddydd Mercher (Ebrill 25).
Roedd wedi bod yn teithio ar hyd yr A4042 rhwng Mamheilad a Phont-y-pŵl.
Mae Heddlu Gwent yn parhau i ymchwilio i’r gwrthdrawiad ac yn apelio am wybodaeth.