Gyda’r Sîn Roc Gymraeg yn mynd o nerth i nerth, mae perchennog  label o Sir Gaerfyrddin yn gobeithio “cael cynulleidfa byd eang” i’w artistiaid.

Ers ei sefydlu flwyddyn yn ôl, mae label Libertino bellach yn gartref i 15 o artistiaid a dydd Sadwrn mi fydd yn cynnal ei ail ‘Ddathliad’, neu Showcase yng Ngheredigion.

Mae perchennog y label, Gruff Owen, yn cydnabod bod y digwyddiad yn garreg filltir, ond wedi blwyddyn o “dyfu” mae yn awr yn anelu at lwyfan rhyngwladol.

“Yn bendant mae’r sin yn fwy iach nag mae wedi bod ers blynyddoedd,” meddai wrth golwg360. “Ond jest y dechrau yw hyn.

“Yn bersonol, fel Libertino, dw i eisiau gweld newid. Dw i eisiau artistiaid i gael cynulleidfa byd eang. Dw i’n gwybod bod hynna’n hurt, ond mae rhaid bod yn uchelgeisiol.

“Mae’r gerddoriaeth yma’n anghredadwy o dda. Dw i’n browd iawn.”

Y Dathliad

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn safle Fforest, Aberteifi, gydag wyth o fandiau’n chwarae gan gynnwys Breichiau Hir, Papur Wall, Los Blancos ac ARGRPH.

Mae disgwyl hyd at 500 o bobol yno, gyda’r digwyddiad yn dechrau am bump yr hwyr.