Dylai’r drefn gynnig help i ferched sy’n cyflawni troseddau mân fel dwyn, yn hytrach na’u carcharu.

Dyna farn Cymdeithas yr Ynadon, wrth i ystadegau ddangos bod cyfnodau byr dan glo ar dwf yng Nghymru.

Mae nifer y merched sy’n cael eu carcharu am chwe mis neu lai, wedi cynyddu ym mhob rhan o Gymru – gan eithrio ardal Heddlu Dyfed Powys.

Yn 2011 gwnaeth 320 fenywod dderbyn dedfryd o’r fath, ond mi gynyddodd hyn i 485 yn 2016 – twf o 43%.

O bob llu yng Nghymru a Lloegr, yn ardal Heddlu’r Gogledd roedd y twf mwyaf. Yn ystod yr un cyfnod o bum mlynedd cynyddodd y niferoedd o 35 i 88 – twf o 151%.

Lladrad oedd dros hanner yr achosion o droseddu mân yng Nghymru tros y cyfnod dan sylw.