Roedd prisiau tai yng Nghymru a Lloegr ar gyfartaledd bron i wyth gwaith yn fwy na chyflogau blynyddol pobol yn 2017, yn ôl ffigyrau newydd.

Yn ôl adroddiad gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol (ONS), roedd disgwyl i bobol a oedd mewn gwaith llawn amser dalu tua 7.8 gwaith yn fwy na’u cyflogau blynyddol am dŷ y llynedd – cynnydd o’r 7.6 yn 2016.

Roedd hyn, meddai’r adroddiad, o ganlyniad i’r cynnydd ym mhrisiau tai yn Lloegr yn 2017, tra bo dim llawer o newid wedi’i weld yng Nghymru.

Y manylion

Ar gyfer tai a oedd newydd gael eu hadeiladu, roedd disgwyl i bobol dalu 9.7 gwaith yn fwy na’u cyflogau, tra bo’r pris am dai eraill wedyn yn 7.6 gwaith yn fwy.

Ardaloedd Kensington a Chelsea yn Llundain oedd y llefydd lleiaf fforddiadwy i brynu tŷ, gyda phrisiau tai yno yn 40.7 gwaith yn fwy na chyflogau.

Copeland yng ngogledd-orllewin Lloegr wedyn oedd y man lle’r oedd y tai mwyaf fforddiadwy, gyda’r ffigwr yno yn 2.7.

Cymorth gan y Llywodraeth

Mae ffigyrau gwahanol gan Lywodraeth Prydain yn dangos bod 69,000 o bobol sy’n prynu tai am y tro cyntaf wedi manteisio ar y ffaith nad oes bellach treth stamp ar dai sydd wedi’u prisio o dan £300,000.

Dros y pum mlynedd nesaf, mae disgwyl y bydd y polisi hwn yn helpu dros filiwn o bobol i brynu tai.

Mae dros 1.1m hefyd wedi agor cyfrifon ‘Cymorth i Brynu’ gydag Isa, sy’n cynnig cymorth ariannol o hyd at £3,000 gan y llywodraeth.