Mi fyddai cael Prif Weinidog o’r gogledd yn “gwneud lles i Gymru gyfan”, yn ôl cynghorydd Llafur o Wynedd.

 Carwyn Jones yn camu o’r rôl yn yr hydref, mae ymdrech bellach ar droed o fewn y  Blaid Lafur i ddod o hyd i olynydd iddo.

Yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, yw’r unig wleidydd hyd yma i ddatgan diddordeb, ond wedi blynyddoedd o gael dynion wrth y llyw mae rhai yn awyddus i weld dynes yn camu i’r adwy.

Ond mae Sion Jones, cynghorydd ward Bethel ar Gyngor Gwynedd, hefyd am weld newid trywydd gan y blaid, ond yn wahanol i rai hoffai ef weld gogleddwr wrth y llyw.

Mae am weld yr Ysgrifennydd dros yr Economi ac Aelod Cynulliad De Clwyd, Ken Skates – dyn sy’n enedigol o Wrecsam – yn cymryd yr awenau.

“Gwneud lles”

“Dw i’n meddwl bod o’n bwysig tro yma, bod ni’n cael rhywun o’r gogledd,” meddai Sion Jones wrth golwg360.

“Mae cymaint o broblemau yn y gogledd ar hyn o bryd gyda’r economi. Rydan ni mor ddibynnol ar y sector cyhoeddus, yn enwedig yn ochrau Caernarfon ac Ynys Môn.

“Ac o ran trafnidiaeth, rydan ni eisio trio gwella rhwydwaith trafnidiaeth y gogledd, a dw i’n meddwl bod Ken yn ymwybodol iawn o’r problemau. Mi fasa fo’n gwneud lles i’r Blaid Lafur.”

Targedu’r gogledd

Wrth edrych at y dyfodol, mae Siôn Jones yn nodi bod yna gyfle i “ddatblygu seddi potensial y gogledd” ac i dargedu seddi gan gynnwys Aberconwy ac Arfon.

“Fel arweinydd mae ganddo Gymru i gyd i feddwl amdan, ond dw i’n meddwl buasai cael Ken yn Brif Weinidog yn sicr yn datblygu Llafur yn naturiol yn y gogledd,” meddai.