Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad yn Niwbwrch brynhawn ddoe (dydd Mercher, Ebrill 25).

Fe gafodd plismyn eu galw yn sgil adroddiadau o ymosodiad ar Stryd Fawr, Niwbwrch, lle cafodd dyn lleol yn ei 40au ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Yn hwyrach yn y dydd, fe gafodd dyn lleol arall, yn ei 20au, ei ddwyn i’r ddalfa i gael ei holi, ac mae’n dal yno.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dweud bod ymchwiliad i’r digwyddiad yn parhau, ac maen nhw’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar y rhif, 101.