Fe fydd bandiau Cymraeg yn chwarae yn ystod digwyddiad mawr gan y BBC yn ninas Abertawe – ond nid ar y prif lwyfan.

Fe ddaeth y cadarnhad gan lefarydd ar ran BBC Music, trefnwyr ‘The Biggest Weekend’ yn ystod penwythnos Mai 25-28.

Ymhlith y bandiau a fydd yno’n perfformio yn Gymraeg y mae Band Pres Llareggub, Mellt, Chroma a Serol Serol, ond ar lwyfan ‘BBC Music Introducing’ yn hytrach nag ar y llwyfan mawr.

Ar brif lwyfan y digwyddiad, fe fydd nifer o sêr y byd Saesneg yn perfformio – gan gynnwys Ed Sheeran, Taylor Swift, Sam Smith, Craig David, Jess Glynne, Rita Ora a George Ezra.

Ymateb BBC Music

Wrth ymateb i’r pryderon, dywedodd llefarydd ar ran BBC Music: “Cafodd cyhoeddiad ei wneud yn gynharach yr wythnos hon y bydd nifer o fandiau Cymraeg yn perfformio ar lwyfan BBC Music Introducing yn The Biggest Weekend fis nesaf, gan gynnwys Band Pres Llareggub, Mellt, Chroma a Serol Serol.

“Bydd cyhoeddiad pellach yn fuan iawn am weithgarwch BBC Cymru yn y digwyddiad.”

Ychwanegodd y llefarydd fod cryn ymdrech wedi’i wneud er mwyn sicrhau bod y deunydd hysbysebu’n ddwyieithog, ac mae gan y digwyddiad wefan mewn nifer o ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg.