Mae gwefan newyddion Saesneg am Gymru yn gobeithio codi arian er mwyn cyflogi newyddiadurwyr ymchwiliadol.

Mae Nation.Cymru yn gobeithio denu 600 o bobol a fyddai yn fodlon rhoi £2 yn unig yr un i’r wefan bob mis. Byddai hynny, medden nhw, yn ddigon i dalu newyddiadurwr ffrilans i ysgrifennu dwy neu dair o straeon yr wythnos.

Mae mwy na 200 o bobol wedi tanysgrifio, 24 awr yn unig ers dechrau’r ymgyrch.

“Mae’r ymateb i’r wefan ac i’r alwad am danysgrifwyr wedi bod yn hynod, gan awgrymu fod yna wir alw am wasanaeth o’r fath,” meddai Ifan Morgan Jones golygydd y wefan.

“Mae’n anodd credu nad ydan ni erioed wedi cael gwasanaeth newyddion cenedlaethol yn Saesneg.

“Mae ganddon ni nifer o wasanaethau sy’n darparu ar gyfer rhannau o Gymru, fel y Daily Post a’r Western Mail, a nifer o wasanaethau Prydeinig fel y BBC sydd hefyd yn darparu newyddion am Gymru.

“Y nod gyda Nation.Cymru yw creu gwasanaeth hollol annibynnol, a fydd yn eiddo i’r Cymry yn unig, a nhw fydd yn talu amdano ac yn gweld unrhyw fudd sy’n dod ohono.”

Amrywiaeth

Mae Ifan Morgan Jones yn credu bod angen mwy o amrywiaeth o ffynhonellau newyddion ar Gymru. Nid cystadlu gyda gwasanaethau 24 awr ydi’r nod, meddai, ond cynhyrchu llond llaw o straeon bob wythnos na fyddai’n cael eu trafod fel arall.

“Mae ehangu’r darpariaeth newyddion yng Nghymru yn hollbwysig wrth i ddatganoli barhau i ddatlygu,” meddai.

“Er dechrau’r 20fed ganrif mae’r ddarpariaeth newyddion yng Nghymru yn Saesneg wedi crebachu, ond mae’r rhyngrwyd yn cynnig modelau busnes newydd all wrthdroi’r duedd hwnnw.

“Mae arian yn parhau’n brin mewn newyddiaduraeth ar hyn o bryd, gyda disgwyl i lai a llai o staff gynhyrchu mwy a mwy o ddeunydd. Beth sydd ei angen arnynt yw’r amser a’r cyfle i fynd ar ôl straeon mewn rhagor o ddyfnder.”