Mae Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol yn addo y bydd yna “ymdeimlad o Faes” ym mhrifwyl Bae Caerdydd eleni – er na fydd yn rhaid i neb dalu i fynd i mewn.

Gyda chant o ddiwrnodau i fynd tan ei eisteddfod olaf wrth y llyw, mae Elfed Roberts eisiau sicrhau selogion y bydd yna “awyrgylch agos atoch a chyfeillgar” fel sydd ar “faes traddodiadol” yn y brifwyl arbrofol ym Mae Caerdydd ddechrau Awst.

“Mae’r Bae’n eithaf tebyg i faes traddodiadol o ran maint, ac rydan ni’n edrych ymlaen at gyplysu elfennau o’r maes arferol gyda defnyddio adeiladau eiconig y Bae ac ambell syniad newydd yn ystod yr wythnos,” meddai.

“Bydd y Llwyfan, y Pentref Bwyd a’r bariau mawr i gyd wedi’u lleoli’n hynod gyfleus yn y Roald Dahl Plass y tu allan i fynedfa Canolfan Mileniwm Cymru, a dyma le fydd lleoliad Cerrig yr Orsedd ar gyfer y seremonïau ar fore Llun a Gwener hefyd, gyda’r Cerrig yn cael eu symud yn ystod yr wythnos.”

Beth sydd yn lle.. 

“Bydd y Pafiliwn, nifer o’r perfformiadau theatrig a’r Babell Lên wedi’u lleoli yng Nghanolfan y Mileniwm, a byddwn hefyd yn defnyddio rhai eraill o adeiladau eiconig y Bae er mwyn cynnal gweithgareddau,” meddai Elfed Roberts.

“Adeilad y Pierhead fydd cartref Shwmae Caerdydd, Dysgu Cymraeg – Learn Welsh, a lleolir Y Lle Celf eleni yn y Senedd.  ydd tair ystafell hefyd wedi’u neilltuo ar gyfer y pebyll Cymdeithasau yn adeilad y Senedd.

“Bydd amryw o’n hymwelwyr yn cofio adeilad hardd Tŷ Portland ar Stryd Biwt, ac rydym wedi bod yn ddigon ffodus i allu sicrhau’i ddefnydd ar gyfer adeilad Dawns eleni, ac mae hyn yn rhoi sgôp i ni gynnal ambell ddigwyddiad a gweithgaredd ychydig yn wahanol yn ystod yr wythnos.

“Bydd Maes B yn mynd i hen adeilad Profiad Doctor Who yn y Bae, ac mae’n ein galluogi i gynnig gŵyl ar gyfer pobol ifanc dros 16 oed unwaith eto eleni.  Roeddan ni hefyd yn awyddus iawn i leoli Maes B yn y Bae, fel bod ein gweithgareddau i gyd yn cael eu cynnal mewn un rhan o’r ddinas.

“Eleni, mae gennym ardal wyddoniaeth a thechnoleg yn hytrach nac un pafiliwn mawr. Bydd rhai o’n strwythurau dros dro mwyaf deniadol ni’n dychwelyd i’r Maes eleni, gyda iwrt y Tŷ Gwerin a thipis Caffi Maes B a Sinemaes yn cymryd eu lle o amgylch y Maes.

“Bydd bar Syched hefyd yn dychwelyd, a bydd wedi’i leoli yn ardal yr Eglwys Norwyaidd a fydd yn gartref i nifer o weithgareddau cerddorol.”

Map darluniadol ebrill 2018

Pwy fydd yn talu?

Unwaith y bydd Rhaglen Swyddogol eisteddfod Bae Caerdydd ar werth ddechrau Gorffennaf, fe fydd hi’n bosib i rai brynu bandiau garddwrn ar gyfer mynd i rai digwyddiadau penodol mewn rhai o’r llefydd ar y Maes.

Fe fydd angen bandiau ar gyfer gweithgareddau’r dydd a fydd yn cael eu cynnal yn y Pafiliwn yn Theatr Donald Gordon ac yn yr is-bafiliynau a yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

“Gellir prynu’r rhain ymlaen llaw neu ar y diwrnod,”  meddai Elfed Roberts, “a’r amcan yw ein galluogi i reoli niferoedd sy’n cael mynediad yn unol ag anghenion iechyd a diogelwch y Ganolfan.

“Bydd mynediad i’r ardaloedd eraill y Maes, gan gynnwys yr adeiladau parhaol eraill, i gyd yn rhad ac am ddim.”

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn ardal y Bae, Awst 3-11.