Mae nifer y rheiny sydd wedi cael eu herlyn am greulondeb ac esgeulustod tuag at anifeiliaid ar ei uchaf ers pedair blynedd, yn ôl elusen.

Mae ffigyrau’n dangos bod RSPA Cymru wedi llwyddo yn 2017 i sicrhau 148 o euogfarnau mewn llysoedd ynadon ledled Cymru, a hynny o gymharu â 120 yn 2016, 89 yn 2015 a 116 yn 2014.

Roedd hyn yn ystod yr un cyfnod pan fu raid i’r elusen ymchwilio i 10,176 o gwynion o greulondeb – er bod y ffigwr hwn yn is na’r blynyddoedd cynt.

O’r 148 o euogfarnau yn 2017 wedyn, fe gafodd 67 diffynnydd eu canfod yn euog, ac fe dderbyniodd 52 rhybudd.

Pryderu am geffylau

Roedd llawer o’r achosion a gafodd ei ddelio gan RSPA Cymru yn 2017 yn ymwneud â cheffylau, gyda’r elusen a sefydliadau er lles ceffylau yn mynegi pryderon am argyfwng yn y maes.

Y llynedd, fe gafodd 17 eu dyfarnu’n euog mewn cysylltiad â cheffylau yng Nghymru, ac fe ddeliodd arolygwyr yr RSPCA â 1,331 o alwadau a oedd yn ymwneud â 4,616 o geffylau.

Yn ôl yr RSPCA, maen nhw’n derbyn ar gyfartaledd tua 80 galwad y dydd yn ymwneud â cheffylau ledled Cymru a Lloegr, ynghyd â negeseuon bob dydd gan bobol ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Echrydus”

Mae uwch-arolygydd RSPCA Cymru, Martyn Hubbard, yn dweud bod y ffigyrau yn gyffredinol yn “echrydus ac yn hynod drist”.

“Mae nifer yr euogfarnau a gafwyd nawr yr uchaf ers pedair blynedd yng Nghymru.

“Ac mae ein harolygwyr yn delio ag achosion dihafal a phryderus iawn o gam-drin bwriadol ar anifeiliaid diymadferth…

“Does dim esgus dros greulondeb i anifeiliaid, a byddwn yn parhau i sicrhau bod pobol yn cadw at gyfreithiau lles anifeiliaid.”