Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad yn Aberhonddu neithiwr (dydd Llun, Ebrill 23).

Fe fu’r ymosodiad am tua 9yh mewn parc ger Stryd Arian yn Llanfaes, gyda dyn yn derbyn anafiadau difrifol.

Mae’r heddlu’n chwilio am ddau ddyn mewn cysylltiad â’r digwyddiad, ac maen nhw’n credu bod y ddau yn eu 30au.

Mae’r dyn cyntaf ychydig dros chwe throedfedd o daldra, ac yn gwisgo siaced Nike, joggers, ac esgidiau du.

Mae’r ail ddyn wedyn tua’r un taldra, yn foel, ac yn gwisgo crys-t coch ac esgidiau gwyn.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar y rhif, 101.