Mae Gweinidog yr Amgylchedd ym Mae Caerdydd, Hannah Blythyn, wedi cyhoeddi pecyn o fesurau newydd heddiw (Ebrill 24) a fydd yn mynd i’r afael â gwella ansawdd aer yng Nghymru.
Ymhlith y mwyaf o’r mesurau fydd sefydlu cronfa gwerth £20m ar gyfer lleihau lefel yr allyriadau (emissons) yng Nghymru.
Bydd y Gronfa Ansawdd Aer, a fydd ar gael tan 2021, yn helpu awdurdodau i gydymffurfio â’r terfynau cyfreithlon ar gyfer nitrogen deuocsid, ynghyd â gwella ansawdd aer eu hardaloedd.
Mesurau eraill
Yn ystod y cyfarfod llawn yn y Senedd heddiw, fe gyhoeddodd y Gweinidog hefyd y bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ynglŷn â chynlluniau i greu Ardaloedd Aer Glân.
Mae’r cynlluniau yn cynnwys rhwystro mynediad i gerbydau trymion rhag cael mynediad i ambell ardal yng Nghymru er mwyn lleihau lefel y tagfeydd traffig ac arylliadau mewn ardaloedd cyfagos.
Fe gyhoeddodd hefyd y bydd terfynau cyflymder dros dro yn cael eu gosod yn yr ardaloedd hynny lle mae’r lefel o nitrogen deuocsid yn uwch na’r terfyn cyfreithlon.
Yn ystod y ddau fis nesaf felly, fe fydd terfyn cyflymder o 50mph yn cael ei osod ar yr:
- A494 yng Nglannau Dyfrdwy;
- A483 yn Wrecsam;
- M4 rhwng Cyffordd 41 a Chyffordd 41 (Port Talbot);
- M4 rhwng Cyffordd 25 a Chyffordd 26;
- A470 rhwng Upper Boat a Phontypridd.
Mae disgwyl y bydd y terfynau cyflymder dros dro yn lleihau’r lefel o arylliadau o tua 18%.
“Dyfodol iach i’n cymunedau”
“Mae sicrhau aer glân yng Nghymru yn un o’m blaenoriaethau pennaf,” meddai Hannah Blythyn.
“Dw i wedi ymrwymo i gymryd camau i fynd i’r afael â llygredd aer yng Nghymru er mwyn creu dyfodol iach i’n cymunedau ac er mwyn gwarchod ein hamgylchedd naturiol.
“Rwy’n hyderus y bydd y mesurau rwy’n eu cyhoeddi heddiw yn cefnogi’r newidiadau y mae angen i ni eu gwneud er mwyn sicrhau aer glanach.”