Mi fyddai Mark Drakeford yn “tynnu ar egni’r chwith-canol cymhedrol” er mwyn diwygio polisïau llywodraeth Lafur Bae Caerdydd, petasai’n dod yn Brif Weinidog Cymru.

Daw ei sylwadau wedi iddo ddatgan ei awydd i redeg am y rôl, gan olynu Carwyn Jones fydd yn camu o’r neilltu yn yr hydref eleni.

“Pan mae plaid fel y Blaid Lafur wedi bod mewn grym am sbel hir fel yr ydym ni wedi bod, mae’n rhaid i ni fel plaid ceisio ail-greu polisïau…,” meddai wrth golwg360.

“Ble rydym ni’n mynd i ffeindio’r syniadau, a’r egni i wneud pethau fel hynna? Wel, dw i’n siŵr mai o’r [chwith-canol] y bydd hynna’n dod.”

Mae’n ychwanegu bod syniadau’r asgell yma yn ffitio i mewn gyda’r “traddodiad sydd ‘da ni yng Nghymru o neud pethau mewn ffordd radical, ond gwneud pethau gyda’n gilydd.”

Cynrychioli

Ac mae’n dweud bod ei awydd i “gynrychioli’r chwith-canol” yn y gystadleuaeth am rôl y Prif Weinidog, wedi dylanwadu ei benderfyniad i sefyll.

“Dyna yw un o draddodiadau mwya’r blaid Lafur a dw i’n meddwl ei fod yn bwysig cael rhywun yn yr ymdrech yna i gynrychioli’r traddodiadau yna,” meddai wedyn. “Dyna pam dw i’n sefyll.”