Mae cwmni o Loegr wedi derbyn dirwy o dros £2,000 am osod ffenestri plastig mewn hen gapel rhestredig yn Harlech.
Yn Llys Ynadon Caernarfon, mae cwmni Bluestar Estates (Birmingham) Ltd wedi’i orfodi i dalu £2,171.60 am fethu â chydymffurfio â rhybudd yn ymwneud ag amod caniatâd cynllunio ar Gapel Tabernacl yn Stryd Fawr y dref.
Roedd y rhybudd hwnnw’n nodi bod yn rhaid defnyddio pren traddodiadol ar gyfer fframiau drysau a ffenestri.
Adeilad wedi’i restru
Mae tre’ Harlech yn un o 14 Ardal Gadwraeth o fewn Parc Cenedlaethol Eryri, a hynny oherwydd ei phwysigrwydd hanesyddol a’i nodweddion pensaernïol.
Fe gafodd capel Tabernacl, sy’n gyn gapel i’r Bedyddwyr, ei adeiladu yn 1897, ac mae ar restr y Parc Cenedlaethol o adeiladau traddodiadol sy’n cyfrannu at gymeriad pensaernïol a thraddodiadol y dre’.
Yn ystod y 1980au, fe gafodd y capel ei ddefnyddio am gyfnod fel garej, ond ers hynny bu’n wag.
Ond yn 2014, rhoddwyd caniatâd i drawsnewid yr adeilad yn ddwy uned busnes ac yn bump o fflatiau, a hynny ar yr amod mai ffenestri wedi’i wneud o bren traddodiadol a fydd yn cael eu gosod.
Methodd Bluestar Estates Ltd i gadw at yr amod hwn, er gwaetha’r ffaith iddyn nhw dderbyn rhybudd tair blynedd yn ôl.
“Cwbwl amhriodol”
Yn ôl Aled Lloyd, Pennaeth Rheolaeth Datblygu a Chydymffurfiaeth y Parc Cenedlaethol, mae defnyddio ffenestri plastig mewn adeilad mor amlwg â’r Tabernacl yn “gwbwl amhriodol”, ac mae’n cytuno â dedfryd y llys.
“Os na fydd [Bluestar Estates Ltd] yn cydymffurfio y tro hwn, ni fydd gennym ddewis ond dychwelyd i’r llys unwaith eto,” meddai wedyn.
“Mae Harlech yn dref arbennig ac mae gwarchod naws a chymeriad pensaernïaeth y dref yn bwysig iawn.”