Ar ôl i Carwyn Jones gyhoeddi y bydd yn camu oi rôl yn Brif Weinidog yn yr hydref, mae aelod o’i gabinet wedi galw am “drafodaeth radical ynglŷn â dyfodol a chyfeiriad y Blaid Lafur”.
Yn sgil y cyhoeddiad ddydd Sadwrn (Ebrill 21) mae cwestiynau wedi codi ynglŷn â phwy fydd yn olynu’r Prif Weinidog, gyda’r aelod cabinet, Mark Drakeford, ymhlith yr enwau mwyaf poblogaidd.
Ond mae’r Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies, am weld ei blaid yn canolbwyntio ar faterion mewnol, ac yn osgoi misoedd o “ddiflastod”.
“Dw i ddim yn credu bod hi’n [briodol] i unrhyw un ar hyn o bryd, ddatgan eu bod nhw eisiau bod yn rhan o’r gystadleuaeth,” meddai wrth golwg360.
“Ar hyn o bryd, dylem ni gyd, fel plaid, gael trafodaeth am ein dyfodol. Ac wedyn ethol arweinydd yn yr Hydref. Dw i ddim eisiau gweld cystadleuaeth wyth mis o hyd gyda gwleidyddion yn mynd o gwmpas Cymru yn pregethu.”
Diwygio “radical”
Ymhlith yr “opsiynau gwahanol a radical” sydd angen cael eu hystyried, meddai, yw newid y sustem o ethol arweinydd newydd ar y blaid yng Nghymru.
Dan y sustem bresennol, mae yna dair carfan sy’n cyfrannu at y broses o benodi arweinydd – Aelodau Etholedig, sefydliadau cysylltiedig – undebau ac ati – ac aelodau’r blaid.
A hoffai Alun Davies weld y sustem yn cael ei ddiwygio fel bod gan aelodau’r cyhoedd lais cryfach.
“Sut ydyn ni’n sicrhau bod yna democratiaeth tu fewn i’r blaid?” meddai wedyn. “Mae’n rhaid i ni newid y gyfundrefn ethol arweinydd.”