Mi fydd dyfodol tair ysgol gynradd yn Ynys Môn yn cael ei drafod mewn cyfarfod o bwyllgor craffu’r Cyngor Sir heddiw (dydd Llun, Ebrill 23).

Yn ystod y prynhawn, fe fydd Pwyllgor Craffu Corfforaethol Cyngor Ynys Môn yn trafod y posibilrwydd o gau Ysgol Corn Hir, Ysgol Bodffordd ac Ysgol Henblas (Llangristiolus) yn ardal Llangefni.

Yn y cyfarfod ei hun, fe fyddan nhw’n ystyried adroddiad sy’n nodi’r gost fesul disgybl yn yr ysgolion hyn, ynghyd â’r gwaith cynnal a chadw sydd angen eu gwneud yn y tair.

Fe fyddan nhw hefyd yn cyfeirio at y safonau is na’r disgwyl yn Ysgol Henblas ac Ysgol Bodffordd.

Ymhlith argymhellion yr adroddiad wedyn yw uno’r ysgolion mewn rhyw ffurf, gydag un opsiwn yn cynnig gosod y tair ysgol mewn un adeilad, a’r llall yn rhannu’r tri rhwng dau adeilad.

Does dim disgwyl penderfyniad terfynol heddiw.

“Rhuthro”

Mae Cymdeithas yr Iaith eisoes wedi mynegi eu pryderon ynglŷn â’r sefyllfa hon, gan alw ar yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, i ymyrryd yn y cyfarfod heddiw.

Maen nhw’n cyhuddo’r Cyngor o “ruthro” i gau’r ysgolion, ac yn honni eu bod yn ceisio dod i benderfyniad cyn i’r Cod Trefniadaeth newydd gael ei basio.

“Gofynnwn i chwi ymyrryd trwy ofyn i’r Cyngor ohirio penderfyniadau nes gweld eich Cod newydd,” meddai Ffred Ffransis mewn neges i Kirsty Williams.

“Awgrymwn i chi ddefnyddio cyfle Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd sydd yn eich etholaeth yn y Gymru wledig y mis nesaf i gyhoeddi ffurf ddefnyddiol y Cod newydd er mwyn atal ymdrechion pellach i gau ysgolion tra bo cyfle.”