Mae’r heddlu’n apelio am dystion ar ôl i ddau o bobl gael eu lladd mewn gwrthdrawiad ar ffordd osgoi Dinbych neithiwr.

Yr unig wybodaeth maen nhw wedi’i datgelu hyd yma yw bod car Porche Caymen glas mewn gwrthdrawiad ar briffordd yr A525 tua 11pm.

Meddai’r Uwcharolygydd Mark Pierce o Heddlu Gogledd Cymru:

“Rydym yn meddwl am deulu a ffrindiau’r dioddefwyr ar yr adeg anodd yma.

“Apeliwn at unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth neu a all fod â lluniau dash cam i gysylltu â ni ar 101 gan nodi cyfeirnod W051275.”