Mae angen mwy na newid arweinydd, yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wrth ymateb i gyhoeddiad Carwyn Jones y bydd yn ymddiswyddo fel Prif Weinidog Cymru.

“Dw i’n llongyfarch Carwyn Jones ar ei naw mlynedd fel Prif Weinidog Cymru ac yn dymuno’r gorau iddo fe a’i deulu yn y dyfodol,” meddai.

“Mae llywodraeth Cymru wedi cael ei harwain gan y Blaid Lafur ers 19 mlynedd. Dros y cyfnod hwnnw, mae’n heconomi, ein gwasanaeth iechyd, ein hysgolion a’n gwasanaethau lleol wedi cael eu gadael i wanhau a chrebachu. Mae pobl a’n cymunedau wedi syrthio ymhellach ac ymhellach yn ôl.

“Mae ar Gymru angen mwy na newid arweinydd. Mae arnom angen llywodraeth gyda’r syniadau, y gwerthoedd a’r penderfyniad i adeiladu’n cenedl i’r wlad lwyddiannus y gwyddom y gall hi fod.

“Rhaid i Gymru fod yn well na hyn – fydd ail-drefnu’r cadeiriau ddim yn cyflawni’r newid mae arnom ei angen.”