Mae’r heddlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn dal i ymchwilio i wrthdrawiad difrifol ger cae Clwb Pêl-droed Corneli nos Iau.

Mae dyn 35 oed a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad wedi cael ei anfon yn ôl i’r carchar lle’r oedd wedi cael ei ddedfrydu am drosedd arall.

Mae’r heddlu’n dal i apelio ar i unrhyw un sydd â lluniau o’r gwrthdrawiad gysylltu â nhw ar 101 gan nodi cyfeirnod 1800136445.