Mae teulu wedi talu teyrnged i “ŵr bonheddig” fu farw neithiwr mewn gwrthdrawiad rhwng Caerffili a Chasnewydd.

Bu farw Gareth Williams, 60, yn y fan a’r lle, pan darodd ei feic modur yn erbyn car wrth yrru ar yr A468. Roedd yn hanu o ardal Bedwas yng Nghaerffili.

Digwyddodd y gwrthdrawiad am tua wyth yr hwyr ddydd Iau (Ebrill 19), a chafodd gyrrwr y car ei gludo i’r ysbyty. Mae ef bellach wedi’i ryddhau.

“Roedd Gareth yn ŵr bonheddig go-iawn,” meddai ei deulu mewn teyrnged iddo. “Roedd ei deulu yn dod â hapusrwydd a boddhad iddo.

“Ef oedd y dyn mwyaf cariadus – roedd e bob tro yn rhoi blaenoriaeth i bobol eraill tros ei hun. Roedd e’n ŵr a thad ymroddgar.”

Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio i’r gwrthdrawiad ac yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw trwy alw 101.