Mae colofnydd The Sunday Times a ddaeth dan y lach am ladd ar y Gymraeg yn gynharach yn y mis, wedi wfftio’r cwynion amdano.

Dim ond “jôc” oedd ei sylwadau am yr iaith Gymraeg, meddai, ac mae Rhun ap Iorwerth, Cymdeithas yr Iaith, Meri Huws a Chomisiynydd Heddlu’r Gogledd ar fai am fynd yn “bananas” am ei sylwadau.

Fe gododd ffrae fawr ddechrau’r mis ar ôl i’r colofnydd wneud sylwadau am Gymru a’r Gymraeg mewn colofn yn The Sunday Times, wrth drafod y penderfyniad i ailenwi’r ail bont Hafren yn ‘Bont Tywysog Cymru’.

Fe ddywedodd Rod Liddle y byddai’n well gan y Cymry “alw’r bont yn rhywbeth annealladwy heb unrhyw lafariaid go iawn, fel Ysgythysggymlngwchgwch Bryggy”.

Cwyno am Rod Liddle

 Yn dilyn y sylwadau hyn, bu dros 1,000 o bobol ar Twitter yn cyhuddo Rod Liddle o fod yn “hiliol” a “gwarthus”.

Aeth Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru, Arfon Jones, hyd yn oed mor bell a gofyn i Heddlu Gogledd Cymru i gynnal “asesiad” i weld os oedd wedi troseddu – ond daeth dim o hynny.

Fe anfonodd hefyd gŵyn at Sefydliad Safonau Annibynnol y Wasg (IPSO), gan ei annog i gymryd camau yn erbyn The Sunday Tmes a’i golofnydd.

Roedd Rhun ap Iorwerth, Cymdeithas yr Iaith a Meri Huws ymhlith y rhai a’i gondemniodd hefyd.

Ymateb Rod Liddle

 Wrth ymateb i’w feirniaid ar wefan The Spectator, dywed Rod Liddle ei fod wedi gwneud “jôc” am y Gymraeg, a bod y Cymry wedi mynd yn “bananas”.

Ond roedd yn gyflym i achub cam y Cymry’n gyffredinol, gan ddweud mai “the tuppeny panjandrum, largely from Plaid Cymru, who preside over them,” oedd y rhai mwyaf uchel eu cloch.

“If I have doubted that restrictions upon freedom of speech are tightening by the day, just examine this little furore,” meddai Rod Liddle.

“Grown men and women demanding that the police and the government must take action because someone made a short joke about vowels and the usual hundred or so on Twitter are baying for blood…”