Wrth alw am drefn gynllunio wedi ei theilwra ar gyfer anghenion Cymru, mae bargyfreithiwr adnabyddus hefyd yn credu bod yna le i ddysgu gan y cymdogion tros Glawdd Offa.

Roedd Gwion Lewis yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddoe i draddodi’r ddarlith ‘Cynllunio a’r iaith Gymraeg: Sut i godi tai a chael miliwn o siaradwyr erbyn 2050’.

Ac mae wedi dweud wrth golwg360 y gallai’r trefi eco, sy’n cael eu cynllunio yn Lloegr yn benodol i roi’r flaenoriaeth i’r amgylchedd, fod yn batrwm ar gyfer creu pentrefi sy’n rhoi’r flaenoriaeth i’r iaith Gymraeg yma yng Nghymru.

“Dw i ddim yn meddwl bod lot o syniadau i’w cymryd o’r system [gynllunio] yn Lloegr,” meddai Gwion Lewis.

“Ond un syniad sydd angen i ni ystyried ydy’r syniad yma o gynlluniau cymdogaethol, sef neighbourhood plans.”

Dan y drefn yn Lloegr mae cynghorau plwyf a chymuned – yn hytrach na chynghorau sir fel yng Nghymru – yn cael paratoi ‘cynlluniau cymdogaethol’ sy’n nodi safle a nifer y tai i’w codi yn lleol. Ac mae refferendwm yn cael ei gynnal ar gynnwys y cynlluniau hefyd.

“Mae’r haen newydd yma o gynllunio lleol wedi bod yn ofnadwy o lwyddiannus yn Lloegr,” meddai Gwion Lewis, “o safbwynt medru rheoli yn well faint o dai sy’n cael eu codi, a lle maen nhw yn mynd.

“Ond yn fwy na hynny hefyd, mae cymunedau lleol wedi medru cael, yn sgîl y trafodaethau maen nhw wedi eu cael efo’r datblygwyr… eu bod nhw yn cael llawer iawn mwy o adnoddau ac isadeiledd i’r gymuned leol, nag y bysa cyngor sir yn medru ei sefydlu drwy’r trafodaethau ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer y sir.

“Ac yn aml iawn, gan fod y datblygwyr yn awyddus i gael rhyw fath o gytundeb yn sydyn… ac eisiau osgoi’r broses apêl sy’n gallu cymryd blynyddoedd, maen nhw yn aml yn fodlon cytuno i godi llai o dai, a rhoi llawer iawn mwy o safbwynt isadeiledd i’r gymuned leol.”

Efelychu cynlluniau Lloegr

Yn ôl Gwion Lewis, mae modd efelychu “elfennau” o gynlluniau cymdogaethol y drefn yn Lloegr a chreu ‘cynlluniau cymunedol’ “hynod leol” yma yng Nghymru “fydd yn fendithiol i’r iaith”.

“Ein bod ni yn galluogi cynghorau cymuned yma yng Nghymru i hyrwyddo a sefydlu cynlluniau cymunedol, er mwyn rhoi’r grym i gymunedau fedru penderfynu lle mae tai yn mynd, a faint sy’n cael eu codi.

“Ond eu bod nhw hefyd yn medru cael mwy o ddylanwad ar y math o isadeiledd sydd yn dod ynghylch y tai hynny.

“Mae’n ymddangos bod yna gyfleon, er enghraifft, i hyrwyddo cael mwy o ysgolion cynradd Cymraeg. Ein bod ni yn sefydlu ardaloedd manwerthu sydd yn rhoi’r flaenoriaeth i’r Gymraeg.

“Ei bod hi’n bosib, drwy’r cynlluniau lleol yma, i wneud rhywbeth tebyg i’r hyn sydd wedi ei wneud yn Lloegr gydag eco towns, lle mae yna bolisïau yn cael eu sefydlu er mwyn codi trefi a phentrefi newydd sy’n dangos arferion da o safbwynt yr amgylchedd.

“Pam na fedrwn ni wneud rhywbeth tebyg yng Nghymru? Ein bod ni yn hyrwyddo, efallai, un ai pentrefi newydd neu yn sicr  bod unrhyw ehangu i’n pentrefi presennol ni, ar y sail bod yna arferion da iawn yn gorfod cael eu dangos o safbwynt y Gymraeg…

“Mae yna sgôp yn y cynlluniau cymunedol hyn i newid natur y drafodaeth yng Nghymru.

“Yn hytrach na bod ni yn gweld y Gymraeg fel rhyw broblem a rhywbeth sydd “yn dal pobol yn ôl yn economaidd”, bod pawb – yn cynnwys datblygwyr – yn dechrau gweld cyfleoedd economaidd o safbwynt y Gymraeg.”