Mae ymgyrchwyr iaith wedi gosod sgip y tu allan i gynhadledd Llafur Cymru yn Llandudno heddiw (dydd Gwener, Ebrill 20).

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gwneud hyn er mwyn annog Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, i daflu ei chynlluniau ar gyfer Bil y Gymraeg i mewn iddi.

Maen nhw’n cyfeirio at y papur gwyn a gafodd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru y llynedd a oedd yn cynnig newidiadau i ddeddfwriaeth iaith.

Yn eu plith roedd diddymu Comisiynydd y Gymraeg, swydd a gafodd ei chreu yn 2011 i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg.

“Yn y bin mae lle’r Bil hwn”

Yn ôl David Williams ar ran Cymdeithas yr Iaith, mi fydd y cynlluniau hyn yn “troi’r cloc yn ôl i’r nawdegau a dyddiau Deddf Iaith wan y Torïaid,” meddai.

“Mae’r sgip yn un i’r gymuned gyfan ac mae croeso i unrhyw un ollwng eu sbwriel ynddi yn ystod cynhadledd Llafur Cymru.

“Gobeithio’n fawr y bydd y Gweinidog Eluned Morgan yn manteisio ar y cyfle i daflu ei chynlluniau ar gyfer y Bil y Gymraeg i’r sgip.”

Mae hefyd yn dweud bod angen bil newydd “er lles y bobol, yr iaith a’i defnydd”, ac nid un er “lles y biwrocratiaid fel hyn.”

“Byddai’n well iddyn nhw beidio deddfu o’r newydd o gwbl na throi’r cloc yn ôl fel hyn a gwanhau ein hawliau.”