Mae gweithiwr ym maes gofal preswyl i blant wedi’i gyhuddo o adael i berson ifanc yrru car yn anghyfreithlon.

Fe fydd Debra Lloyd o Wrecsam yn ymddangos o flaen panel disgyblu Gofal Cymdeithasol Cymru yr wythnos nesaf, a hynny er mwyn canfod os gwnaeth hi dorri’r côd ar gyfer gweithwyr gofal preswyl i blant.

Mae’n cael ei chyhuddo o adael i o leiaf un person ifanc yrru car, a hynny er nad oedd ganddo drwydded nac yswiriant i fod ar y lôn.

Mae hefyd yn wynebu cyhuddiad o gymryd fideo o berson ifanc tra’r oedd wrth y llyw, ynghyd â dweud celwydd wrth ei gyflogwr.

Bydd y gwrandawiad yn para tri diwrnod, gan gychwyn ar Ebrill 24 yng Ngwesty Beaufort Park yn yr Wyddgrug.