Mae dyn lleol wedi marw ar ôl i ddau gar daro yn erbyn ei gilydd yn Llandudno ddoe (dydd Mercher, Ebrill 18).

Fe gafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i Heol Bryniau, Pen Morfa, Llandudno am 10.30yb, yn dilyn gwrthdrawiad rhwng Suzuki gwyrdd a Mini Cooper gwyn.

Bu farw’r dyn ar ôl cael ei gludo i’r ysbyty, ac mae ei deulu ar hyn o bryd yn derbyn cefnogaeth.

Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar y rhif, 101.