Mae cymuned fechan yng Ngheredigion yn poeni yn dilyn cyfres o ladradau yn ddiweddar – ac mae un o’r trigolion yn mynd cyn belled â dweud eu bod yn ofni bod “gangs” o ladron yn targedu’r pentref yn ystod y nos.

Mae Bronant yn bentref bychan a chymharol anghysbell ar ffordd yr A485 rhwng Llanilar a Thregaron, ac yn ddiweddar mae’r ardal wedi cael ei thargedu gan ladron.

Mae’r ffarmwr lleol, John Jones, yn cyfeirio at achos o ddwyn o festri eglwys, yn ogystal ag achosion o feiciau cwad yn cael eu dwyn. Mae’n gofidio am “gangs yn dod yn y nos”, ac yn nodi bod y pryderon yma wedi ei ysgogi i osod sustem CCTV ar ei dir.

“[Peth] eitha’ diweddar yw hyn, mas yng nghefn gwlad,” meddai John Jones wrth golwg360.

“Achos bod mwy o gamerâu a phethau yn y trefi, efallai bod hynna’n rhywbeth i wneud â hyn. Efallai bod nhw’n ofn dwyn [yn y dinasoedd].

“Mae’n [codi ofn]. Mae tools yn cael eu dwyn. Mae yna ladrata cŵn ar hyd y lle, a phethau fel’ny. Mae i weld yn digwydd yn fwy aml nag oedd e.”

Bysiau

Perchennog iard fysys lleol yw Gwynfor James, ac mae e’n honni bod ef ei hun wedi bod yn darged lladrad yn ddiweddar.

Cafodd batris cerbydau eu dwyn o’i safle ef rhyw dair wythnos yn ôl, meddai, ac mae yntau hefyd yn pryderu am ladron yn dod gyda’r nos.

“Mae gymaint o fysys ar yr iard yma, gallen nhw ddod mewn yn y nos a dwgyd y batris,” meddai. “Ond, mae security lights gyda ni, gyda’r nos.

“Chi’n clywed am y pethe yma’n cael eu dwgyd… mae dyn yn dechrau poeni bach. Cawson ni erioed rhywbeth fel hyn o’r blaen.”

Siop y Bont

Mae siop y pentref, Siop y Bont, wedi profi dwy ymgais i ladrata o fewn ychydig o wythnosau, yn ôl trigolion, ac roedd yr ymgais diweddaraf dros y penwythnos diwethaf.

Yn anffodus, nid y neges orau – a welodd, clywodd unrhyw un unrhyw beth neithiwr (nos Sul)? Lladron 'di targedu'r siop…

Posted by Siop y Bont on Monday, 16 April 2018

Yn ôl Don Lloyd o Dafarn y Bont – sydd gyferbyn â’r siop – mae’r achos yn “uffernol o beth” ac mae e’n annog pobol leol i osod sustemau CCTV i geisio dal y lladron.

Dyw ef ei hun ddim yn poeni’n ormodol am yr achosion diweddar, gan fod ganddyn nhw gamerâu yn barod, meddai.