Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fethu targedau amserau aros mewn unedau brys, yn ôl yr ystadegau diweddaraf.

Ym mis Mawrth dim ond 75.6% o gleifion wnaeth dderbyn triniaeth o fewn pedwar awr, sydd tipyn is na tharged y Llywodraeth sef 95%. Dyma’r canran isaf ers i gofnodion ddechrau.

Yn ogystal, mae hyn tipyn yn is na’r ganran flwyddyn yn ôl. Ym mis Mawrth y llynedd, gwnaeth 80.9% o bobol aros llai na phedwar awr am driniaeth neu gyngor meddygol.

Mis diwethaf, mi wnaeth5,444 o gleifion aros dros 12 mewn unedau brys yng Nghymru. Mae hyn yn gynnydd o 2,253 o gymharu â’r un cyfnod y llynedd, a dyma’r nifer uchaf erioed.

“Tywydd eithafol”

“Er gwaethaf profi un o’r gaeafau prysuraf ar gofnod, mae’r gwasanaeth iechyd wedi llwyddo i ddarparu gofal amserol a phroffesiynol i gleifion yn y mwyafrif helaeth o achosion,” meddai’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.

“Dyma’r ail gyfnod prysuraf ar gofnod ar gyfer derbyniadau i’r ysbyty rhwng mis Ionawr a mis Mawrth, a oedd yn cynnwys lefelau uchel iawn o’r ffliw a phobl hŷn yn cael eu derbyn i’r ysbyty.

“Roedd y tywydd eithafol yn ystod dechrau mis Mawrth hefyd yn ei gwneud yn hynod anodd i’n gwasanaeth iechyd weithredu. Mae hyn wedi cael effaith amlwg ar amseroedd aros adrannau brys ledled Cymru.”

“Argyfwng difrifol”

“Mae’r Llywodraeth Llafur Cymreig wedi methu ag ariannu’r gwasanaeth yma tro ar ôl tro, a’r dagfa frawychus yma yn ein gwasanaethau brys yw canlyniad hynny,” meddai’r Aelod Cynulliad Ceidwadol, Angela Burns.

“Mae angen strategaeth arloesol arnom er mwyn lleihau amseroedd aros. Ond cyn hynny, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru dderbyn bod yna argyfwng difrifol wrth graidd Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru.”