Mae ymgais i orfodi Llywodraeth Cymru i gyhoeddi adroddiad am y diweddar weinidog, Carl Sargeant, wedi methu.

Fe gyflwynodd y Ceidwadwyr Cymreig gynnig yn y Senedd ddydd Mercher (Ebrill 18) yn mynnu bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r adroddiad ynghylch a gafodd newyddion am sacio’r cyn-AC ei ryddhau i’r wasg heb ganiatâd.

Ond yn dilyn pleidlais, fe gafodd y cynnig ei wrthod, gyda 29 pleidlais yn ei erbyn, 26 o’i blaid, ac un bleidlais wedi’i hymatal.

Ffrae’r Cynulliad

Ddechrau’r wythnos, fe ysgrifennodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, lythyr at Lywydd y Cynulliad, Elin Jones, yn bygwth camau cyfreithiol pe bai hi’n rhoi caniatâd i’r ddadl fynd yn ei blaen.

Ond gwrthod y bygythiad hwn a wnaeth hi, gan ddweud nad oedd hi “wedi fy argyhoeddi o’r achos rydych wedi ei gyflwyno.”

Ers hynny, mae’r Llywydd wedi derbyn cynnig gan y llywodraeth ar sut y gallai’r gyfraith weithio yn y dyfodol, ac mae’n credu y dylai’r mater gael ei drafod gan Aelodau Cynulliad o bob plaid.

Mae gweinidogion Llywodraeth Cymru yn dal i fygwth mynd â’r Cynulliad i’r llys am y mater.

Yr adroddiad

Fe gafodd y ddadl ei galw ddydd Mercher yn dilyn wythnosau o fethu â chael Llywodraeth Cymru i gyhoeddi’r adroddiad.

Fe bleidleisiodd y Cynulliad ddechrau’r flwyddyn y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi’r adroddiad, a oedd yn ymwneud â’r digwyddiadau a arweiniodd at farwolaeth y cyn-weinidog – a gafodd y sac fis Tachwedd y llynedd yn dilyn cyhuddiadau o gamymddwyn yn rhywiol.

Roedd yr ymchwiliad ynglŷn â’r honiad bod gwybodaeth am ddiswyddo Carl Sargeant wedi’i rhyddhau i’r wasg heb ganiatâd – ond fe ddywedodd yr adroddiad yn y diwedd nad oedd hynny’n wir.

Ym mis Mawrth, fe ysgrifennodd prif was sifil Llywodraeth Cymru, Shan Morgan, at Aelodau’r Cynulliad yn dweud na fyddai’r adroddiad yn cael ei gyhoeddi oherwydd y gallai niweidio ymchwiliadau eraill i farwolaeth y cyn-AC.

Yn y cyfamser, fe gafodd adroddiad gwahanol ei gyhoeddi ddydd Mawrth (Ebrill 17), gyda hwnnw’n dod i’r casgliad nad oedd Carwyn Jones wedi “camarwain” y Cynulliad yn dilyn marwolaeth Carl Sargeant, ac nad oedd yna dystiolaeth am ddiwylliant o fwlio o fewn Llywodraeth Cymru.