Mae Cyngor Dinas Caerdydd wedi cadarnhau eu bod wrthi’n trafod â’r Eisteddfod Genedlaethol ynglŷn â’r posibiliad o gynnal gigs Maes B eleni yn adeilad Doctor Who yn y Bae.

Ers misoedd, mae sïon wedi bod ar led y gallai gigs pobol ifanc y brifwyl gael eu cynnal yno – fe adroddodd golwg360 ar y mater ym mis Chwefror.

Ond, yn ogystal â chadarnhau’r trafodaethau â’r Eisteddfod Genedlaethol, mae’r Cyngor wedi cadarnhau bod opsiynau eraill yn cael eu hystyried ar gyfer y safle.

Ac mae hyn yn sicr o ddwysau pryderon y gallai gobeithion yr Eisteddfod am y safle gael eu tanseilio.

Opsiynau

Llywodraeth Cymru sy’n berchen y safle a Chyngor Caerdydd sy’n berchen yr adeilad ei hun – nhw hefyd wnaeth ariannu adeiladu’r safle.

Ond, os ydi Cyngor Dinas Caerdydd am barhau i rentu’r safle ar brydles gan Lywodraeth Cymru, mae disgwyl iddyn nhw ddod o hyd i’r tenantiaid diwethaf, BBC Worldwide.

Mewn neges at golwg360 mae llefarydd ar ran y Cyngor wedi cadarnhau eu bod yn “ymchwilio i nifer o opsiynau ar gyfer y safle”.

Mae’r awdurdod lleol yn gwrthod datgelu pwy sydd wedi dangos diddordeb yn y safle hyd yn hyn, ond maen nhw’n cadarnhau nad oes unrhyw fargen wedi’i tharo eto.

“Rydym yn gweithio â Llywodraeth Cymru ar gynlluniau ar gyfer yr adeilad, ond dyw’r mater ddim wedi dod i ben eto,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

Canolfan y Doctor Who Experience

Rhwng Gorffennaf 2012 a Medi 2017, roedd BBC Worldwide yn rhentu’r safle ar brydles oddi wrth Gyngor Caerdydd, a daeth y ganolfan yn gartref i arddangosfa’r gyfres deledu Doctor Who.

Daeth y trefniant yma i ben wedi pum mlynedd pan ddaeth y cytundeb i ben.

Fe wnaeth Cyngor Caerdydd wneud colled o £1.1m trwy brydlesu’r ganolfan i BBC Worldwide, gydag arian y trethdalwr yn mynd i wneud yn iawn am hyn.

Tu fewn i’r adeilad mae yna ardal agored fawr ‘aml bwrpas’, yn ogystal ag ardal swyddfeydd dau lawr.